Theori Cerdd Mewn Grŵp

TROSOLWG

Theori Cerdd Mewn Grwp

Er mwyn cyflawni addysg gerddorol ein myfyrwyr yr ydym yn cynnig dosbarthiadau Theori a Sain Clust dan arweiniad Deilwen Hughes.

Mae dysgu am theori cerddoriaeth yn holl bwysig ac yn help mawr i gryfhau holl agweddau mewn datblygiad i fod yn gerddor llwyddiannus, felly annogwn i bawb ddod i’r sesiynau hyn.

Cyn sefyll yr arholiadau ymarferol graddau uwch, mae’n orfodol i lwyddo mewn arholiad theori Gardd 5, felly cynghorwn i bawb gychwyn yn gynnar. Ar hyn o bryd yr ydym yn cynnig cyfres o 10 sesiwn bob tymor, gyda dosbarthiadau ar gyfer cychwynwyr, lefel ganolradd, ac i rai sy’n gweithio tuag at arholiad Gradd 5.

CYFLEUSTERAU

Darperir hyfforddiant mewn ystafelloedd gwrthsain gyda system aerdymheru sydd wedi eu hadeiladu’n bwrpasol ar gyfer ein dibenion ni yn ein prif ganolfan yn Galeri Caernarfon. Mae yna biano ym mhob gofod dysgu ar gyfer gwersi, yn cynnwys pianos Kawai, Yamaha, Kemble a Rieger Kloss. O dro i dro bydd pianyddion o safon uwch yn derbyn cyfleoedd i berfformio ar Biano Cyngerdd Steinway mewn cyngherddau ffurfiol a drefnwyd gan CGWM yn Theatr Galeri Caernarfon. Yn ein cangen yn Ninbych mae hyfforddiant yn cael ei ddarparu ym mhrif awditoriwm y theatr ynghyd ac mewn dwy ystafell lai sydd gyda phianos.

Mae offerynnau eraill a ddarperir ar gyfer hyfforddiant yn cynnwys:

  • Telynau Celtaidd a phedal
  • Cit Ddrymiau a Marimba
  • Darperir amps yn ôl y gofyn ar gyfer tiwtoriaeth Gitâr

Ar gyfer unrhyw hyfforddiant ar offeryn arall, mae disgwyl i fyfyrwyr ddod ag offerynnau eu hunain. Cysylltwch â ni os nad yw hyn yn bosib. 

Mae CGWM yn cymryd diogelwch ac amddiffyniad ein myfyrwyr o ddifri. Mae’r mwyafrif o’n gweithgareddau yn cynnwys cyfraniad gan blant, ac rydym mewn cysylltiad cyson ag oedolion bregus. Rydym yn gweithredu polisi Amddiffyn ac yn sicrhau fod pob aelod o staff a thiwtoriaid yn cael eu gwirio yn llwyddiannus drwy system GDG (DBS). Mae yna ffenestri bychan yn nrysau pob ystafell ddysgu, ac aelod o staff yn bresennol yn y swyddfa yn ystod holl oriau dysgu. 

Mae Canolfan Gerdd William Mathais wedi ei leoli yn adeilad celfyddydol Galeri. Mae'r adeilad yn cynnwys caffi a man eistedd gan weini bwyd a lluniaeth. Mae’r adeilad hefyd yn cynnwys mannau i berfformio gan gynnwys dwy stiwdio a theatr y mae’r Ganolfan Gerdd yn ei ddefnyddio’n rheolaidd ar gyfer amrywiaeth o weithdai, dosbarthiadau meistr, cyngherddau a gwyliau. Mae toiledau a thoiledau anabl ar gael ar bob llawr yr adeilad, ac mae’r adeilad yn croesawu cŵn tywys. Mae parcio anabl a pharcio talu ac arddangos ar gael wrth droed yr adeilad. Mae meysydd parcio talu ac arddangos eraill ar gael gerllaw. 

Mae Canolfan Gerdd William Mathias Dinbych wedi ei leoli yn Theatr Twm o’r Nant. Mae’r adeilad yn cynnwys man eistedd gyda byrddau. Ynghyd ag ystafelloedd dysgu, mae’r adeilad yn cynnwys theatr y mae’r Ganolfan Gerdd yn ei ddefnyddio ar gyfer amryw o weithdai a chyngherddau. Mae mynediad cadair olwyn ar gael i’r adeilad, mae toiledau a thoiledau anabl ar gael ac fe groesawir cŵn tywys. Mae parcio anabl a pharcio cyfyngedig ar gael ym maes parcio’r theatr, mae’n bosib parcio ar y ffordd, ac mae meysydd parcio cyhoeddus ar gael gerllaw.

SUT I WNEUD CAIS

Gallwch wneud gais am yr hyfforddiant hwn drwy gwblhau ein ffurflen gais isod:

 

Lawrlwytho Ffurflen Gais